Dyddiad yr Adroddiad

30/06/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202504789

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei ddiweddar wraig, Mrs B, gan y Bwrdd Iechyd. Gwnaeth yr ymchwiliad ystyried a oedd y gofal a roddwyd i Mrs B, yn dilyn ei diagnosis â chanser y pancreas ar 21 Mawrth 2025, yn glinigol briodol ac yn amserol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a roddwyd yn unol â’r canllawiau disgwyliedig, ond bod oedi cyn cynnal ymchwiliadau a darparu apwyntiad yn y clinig Oncoleg. Roedd y rhain yn fethiannau yn y gwasanaeth. Fodd bynnag, ni fyddai ymyriad cynharach wedi gwneud gwahaniaeth i ganlyniad trist Mrs B. Nid oedd ychwaith yn debygol y byddai wedi ymestyn yr amser a oedd ganddi ar ôl. Wedi dweud hynny, canfu’r Ombwdsmon hefyd y gallai ymchwiliadau ac atgyfeiriadau mwy amserol fod wedi arwain at atgyfeiriad Gofal Lliniarol cynharach a dulliau rheoli/ymyriadau lliniarol yn cael eu rhoi ar waith yn gynt nag a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Roedd yr ansicrwydd o beidio â gwybod y canlyniad yn gynt, a pheidio â rhoi mwy o amser i Mrs B a’i theulu baratoi ar gyfer diwedd ei hoes, yn anghyfiawnder iddynt. Dim ond i’r graddau cyfyngedig hyn y cafodd yr agwedd hon ar gŵyn Mr B ei chadarnhau.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd argymhellion yr Ombwdsmon. Roedd hyn yn cynnwys ymddiheuro i Mr B; rhannu adroddiad yr ymchwiliad â chlinigwyr a staff perthnasol a oedd yn ymwneud â gofal Mrs B at ddibenion myfyrio a dysgu; ac ystyried adolygiad o’i adnoddau er mwyn bodloni’r amserlenni a argymhellir yn well o fewn Rhwydwaith Canser Cymru, y Llwybr Optimaidd Cenedlaethol ar gyfer Canser y Pancreas.