Dyddiad yr Adroddiad

09/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202507784

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi sylw i bryderon a godwyd ganddi o ran ei hysterectomi.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd yn trafod pryderon Mrs A â hi, nid oedd wedi ymateb yn ffurfiol i’w chŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb i’w chŵyn o fewn 4 wythnos, ac i ymddiheuro a rhoi eglurhad iddi am beidio rhoi sylw i’w phryderon drwy weithdrefn gwyno Gweithio i Wella.