Cwynodd Ms B oherwydd ei bod yn anhapus gyda’r camau a gymrodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (“y Cyngor”) yng nghyswllt Cynllun Datblygu Unigol (“IDP”) ei mab, a sut yr oedd y Cyngor wedi delio â’i chŵyn.
Nododd yr Ombwdsmon fod Ms B wedi gwneud apêl ffurfiol i Dribiwnlys Addysg Cymru. Felly roedd y camau a gymrodd y Cyngor yng nghyswllt yr IDP y tu allan i’w hawdurdodaeth i ystyried. Roedd materion delio gyda chwynion yn cael eu hystyried yn bennaf o dan ymatebion cwynion y Cyngor a phenderfynodd yr Ombwdsmon na ellid gwneud dim byd ymhellach. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Cyngor, yn dilyn cyfarfod i adolygu’r IDP, wedi symud ymlaen gyda chyfarfod datrys anghydfod anffurfiol yn ddiarwybod i Ms B. Roedd Ms B wedi cael gwybod y byddai’n digwydd, ond ni wnaed yn glir iddi ar y diwrnod.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor y byddai, o fewn pythefnos, yn ymddiheuro wrth Ms B am beidio â nodi’n glir ar y diwrnod bod y cyfarfod yn un i adolygu’r IDP a datrys anghydfod yn anffurfiol.