Cwynodd Ms A fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chwyn gam 2.Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’r gwyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms A. Penderfynodd setlo’r gwyn heb ymchwiliad.Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Ms A i ymddiheuro a rhoi eglurhad am yr oedi ac i gyhoeddi ymateb i gwyn cam 2 o fewn pythefnos.