Cwynodd Mr B fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi gwrthod uwchgyfeirio ei gŵyn i Gam 2 o’i Weithdrefn Gwyno gorfforaethol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwrthod uwchgyfeirio pryderon Mr B yn amhriodol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ysgrifennu at Mr B gydag ymddiheuriad am y methiant i uwchgyfeirio ei gŵyn a chyhoeddi ymateb i’w gŵyn Cam 2 o fewn 3 wythnos, a’i gael.