Cwynodd Mr A am y ffordd roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi delio â’i gŵyn am ei fethiant i gyhoeddi Cynllun Datblygu Unigol (“IDP”) diwygiedig i’w fab, o fewn yr amserlenni statudol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi cyhoeddi ymateb Cam 2, ei fod yn un byr ac nad oedd yn ymateb digonol i’r pryderon a godwyd, nac yn ystyried y camau cywiro y gofynnwyd amdanynt. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gysylltu â Mr A o fewn 2 o wythnos i gytuno ar yr elfennau o’i gŵyn nad oedd wedi’u datrys ac i egluro’r camau cywiro y gofynnwyd amdanynt, ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 1 mis.