Dyddiad yr Adroddiad

09/29/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Addysg anghenion arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202302793

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gwasanaeth a ddarparwyd gan dîm Anghenion Dysgu Ychwanegol y Cyngor pan oedd hi’n ceisio cael gwybodaeth a sicrhau lleoliad addysgol i’w phlentyn. Cwynodd Mrs A hefyd ynghylch y cyfathrebu ac, yn arbennig, nad oedd y Cyngor wedi darparu ymateb i’w chwyn.

Canfu’r Ombwdsmon bod lleoliad addysgol addas wedi cael ei ganfod i’r plentyn a bod y lleoliad hwnnw wedi cael ei dderbyn yn sgil cyflwyno’r gŵyn. Fodd bynnag, nid oedd Mrs A wedi cael ymateb ffurfiol i’w chwyn ac nid oedd yn glir a oedd y Cyngor yn bwriadu cyhoeddi ymateb ffurfiol i’r gŵyn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymateb ffurfiol i’w chwyn i Mrs A, ynghyd ag ymddiheuriad ac eglurhad am fethu gwneud hynny, cyn pen 20 diwrnod gwaith.