Dyddiad yr Adroddiad

04/21/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202208372

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X na chafodd ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i’w chwyn, a gyflwynodd 6 mis yn ôl, ynglŷn â gofal a thriniaeth ei gŵr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod a achosodd rwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd â chais yr Ombwdsmon i gyflwyno ymateb sylweddol i gŵyn Mrs X (o fewn 6 wythnos), a ddylai hefyd gynnwys ymddiheuriad am yr oedi.