Mae Cymorth Eiriolaeth Cymru (ASC) yn elusen gofrestredig sy’n arbenigo mewn darparu eiriolaeth broffesiynol, cyfrinachol ac annibynnol. Gall ein Heiriolwyr roi cymorth i chi mewn perthynas â thriniaeth, meddyginiaeth, gwasanaethau, hawliau a dewisiadau, a byddant yn eich galluogi i ddweud eich dweud yn eich triniaeth a’ch gofal.

Nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaethau cynghori.

Dyma pwy sy’n gallu cael gafael ar wasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol:
- Pobl a gedwir dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu sy’n destun Gorchymyn Triniaeth Gymunedol neu Warcheidiaeth.
- Cleifion dan gyfyngiadau a ryddheir yn amodol.
- Cleifion anffurfiol yn cael eu trin neu eu hasesu am gyflwr iechyd meddwl.

Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn darparu gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ar gyfer cleifion cymwys yn eu hardal. Ar hyn o bryd, mae Cymorth Eiriolaeth Cymru’n darparu gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Dyma sut mae gallu cael gafael ar wasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol:
- Pan fo Corff GIG neu Awdurdod Lleol yn bwriadu darparu, gwrthod neu atal triniaeth feddygol ddifrifol
- Pan fydd Corff GIG neu Awdurdod Lleol yn bwriadu trefnu neu newid llety
- Adolygiadau gofal
- Achosion amddiffyn oedolion

Mae’n bosib y bydd angen eiriolwr hefyd mewn achosion lle mae Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn cael eu defnyddio. Dyma pryd mae’n rhaid cyfarwyddo Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol:
- Pan fydd Awdurdodiad Brys wedi’i wneud a chais am Awdurdodiad Safonol
- Pan fydd amddifadu o ryddid heb awdurdod yn cael ei wirio
- Pan fydd bwlch yn y broses o benodi Cynrychiolydd Person Perthnasol

Lle nad oes gan yr unigolyn Gynrychiolydd Person Perthnasol ‘proffesiynol’ cyflogedig, a bod y person perthnasol, ei gynrychiolydd neu’r corff goruchwylio’n teimlo bod angen cyfarwyddo Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol i gefnogi’r rôl Cynrychiolydd Person Perthnasol.

Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru’n darparu gwasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol ar gyfer cleifion cymwys yn eu hardal. Mae Cymorth Eiriolaeth Cymru’n darparu’r gwasanaeth hwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dyma pwy sy’n gallu cael gafael ar wasanaeth Eiriolaeth Gymunedol:
- Pobl sy’n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd – fel arfer yn golygu bod eich gofal yn cael ei reoli drwy Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol
- Cleifion mewnol seiciatrig sydd angen eiriolaeth ar gyfer materion nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaeth neu driniaeth.
- Pobl sy’n dymuno cael eu hailasesu gan Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol ar gyfer gwasanaethau eilaidd lle mae eu hachos wedi’i gau yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru’n darparu gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol ar gyfer cleifion cymwys yn eu hardal. Ar hyn o bryd, mae Cymorth Eiriolaeth Cymru’n darparu gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol i bobl o unrhyw oedran yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Eiriolaeth ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed:
Gall unrhyw berson ifanc sy’n gysylltiedig â CAMHS gael eiriolwr Cymorth Eiriolaeth Cymru i helpu i siarad am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Eiriolaeth Arbenigol ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu a/neu Awtistiaeth. (Ariennir gan Grant Henry Smith tan 2025).

Mae’r gwasanaeth yn darparu eiriolaeth anstatudol i oedolion sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth ac sy’n cael gwasanaethau gofal sylfaenol sydd y tu allan i gylch gwaith eiriolaeth iechyd meddwl statudol neu gymunedol.

Cymhwysedd:
Bydd yr eiriolwr arbenigol hwn yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd ar draws ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Aneurin Bevan a Bae Abertawe.
Gall cleientiaid atgyfeirio eu hunain at y gwasanaeth, a gall gweithwyr proffesiynol, teulu a ffrindiau wneud atgyfeiriadau hefyd – yr un broses ag atgyfeiriadau Cymunedol.
Bydd y gwasanaeth arbenigol yn cefnogi pobl i ddeall eu hawliau cyfreithiol a chael gafael ar addasiadau rhesymol, helpu gyda chyfarfodydd cynllun cymorth ymddygiad a chyfarfodydd cynllun gofal, cymorth i gael gafael ar gofnodion meddygol, siarad â gweithwyr proffesiynol, cymorth gyda chwynion a chanmoliaeth a chymorth gydag unrhyw bryderon eraill.

Gwasanaeth Eiriolaeth Dementia - Adref o’r Ysbyty. (Ariennir gan Gronfa Integredig Ranbarthol Gorllewin Morgannwg tan fis Hydref 2024).

Mae’r gwasanaeth yn darparu eiriolaeth anstatudol i gleifion mewnol sydd â dementia yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a hyd yn oed lle nad dementia yw’r prif reswm dros gael eu derbyn.

Gellir gwneud atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Eiriolaeth Dementia - Adref o’r Ysbyty pan fydd y broses cynllunio i ryddhau cleifion yn dechrau a phan fydd rhyddhau i’r cartref yn cael ei ystyried.

Bydd Eiriolaeth yn dechrau yn ystod y broses ryddhau, a bydd yn parhau ar ôl y broses ryddhau er mwyn sicrhau bod gofal yn cael ei drosglwyddo’n ddidrafferth. Bydd eiriolaeth yn dod i ben pan fydd gofal neu gymorth yn cael ei roi ar waith, pan fydd canlyniadau’r claf wedi cael eu bodloni, a phan nad oes angen mewnbwn eiriolaeth ar y claf mwyach.

Gall y claf, ei ofalwyr neu weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wneud atgyfeiriad.

Charterhouse 1, Parc Busnes Links, Ffordd Fortran, Llaneirwg, Caerdydd, CF3 0LT

Tŷ Singleton,
Charter Court,
Phoenix Way
Parc Menter Abertawe,
Abertawe