Beth rydym yn gallu ei wneud

Gallwn ystyried cwynion am Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu a Phaneli’r Heddlu a Throseddu yng Nghymru ond dim ond am y ffordd y gwnaethant ddelio â’ch cwyn.

Mae ein cylch gorchwyl yn gyfyngedig. Mae hyn oherwydd bod trosedd yn fater dan reolaeth Llywodraeth San Steffan o hyd; nid yw’n swyddogaeth sydd wedi’i datganoli i Gymru.

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion yn erbyn Prif Gwnstabl ei heddlu. Mae’r Panel Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am ystyried cwynion yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu (neu’r Dirprwy).

 

Beth nad ydym yn gallu ei wneud

Ni all ystyried cwynion am sut mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi gweithredu mewn ymchwiliad i neu atal trosedd, neu unrhyw benderfyniadau gweithredol. Mae ein swyddogaeth felly’n gyfyngedig i ystyried cwynion am y ffordd y mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu neu’r Panel Heddlu a Throseddu wedi ymdrin â chwynion.

 

Materion i’w hystyried

Gan fod y Panel Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am ymdrin ag unrhyw gwynion am y Comisiynydd Heddlu a Throseddu (neu’r Dirprwy), os ydych chi’n anfodlon ynglŷn â’r ffordd mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi ymdrin â’ch cwyn byddwn fel arfer yn disgwyl i chi fynd â’ch cwyn at eich Panel Heddlu a Throseddu lleol yn gyntaf cyn cwyno wrthym. Caiff y Paneli Heddlu a Throseddu yng Nghymru eu cynnal yn awdurdod lleol yr ardal heddlu perthnasol (gweler manylion isod).

O ystyried ein swyddogaeth gyfyngedig, nid yw cwynion sy’n ymwneud â’r ffordd y mae’r heddlu yn ymchwilio i drosedd neu’n cymryd penderfyniadau gweithredol yn faterion y gallwn eu hystyried. Gallai cwynio’n o’r fath yma gael eu hystyried gan Adran Safonau Proffesiynol eich heddlu lleol. Os yw’r mater yr ydych eisiau cwyno amdano yn ddifrifol neu’n sensitif, gallai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu eich cynorthwyo, yn: https://policeconduct.gov.uk/cy/cwynion-adolygiadau-ac-apeliadau

 

Gwybodaeth bellach

Isod mae manylion cyswllt ar gyfer Adrannau Safonau Proffesiynol y pedwar heddlu yng Nghymru os ydych yn dymuno gwneud cwyn am swyddogion heddlu (o dan lefel Prif Gwnstabl), neu staff eraill o’r heddlu, neu’r ffordd y mae’r heddlu wedi ymchwilio i drosedd.

Heddlu Gogledd Cymru – https://www.northwales.police.uk/cy-GB/

E-bost: profstandardsenq@nthwales.pnn.police.uk

Post: Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Glan y Don, Bae Colwyn, Conwy LL29 8AW

Ffôn: 01492 805486

Heddlu Dyfed Powys – https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/

E-bost: psd@dyfed-powys.pnn.police.uk

Post: Adran Safonau Proffesiynol, Heddlu Dyfed Powys, Blwch Post 99,

Llangynnwr, Caerfyrddin. SA31 2PF.

Ffôn: 01267 226044

Heddlu De Cymru – https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/ 

E-bost: professional.standards@south-wales.pnn.police.uk

Post: Tŷ Richard Thomas, Newlands Avenue, Ystâd Ddiwydiannol Bracla. CF31 2DA

Ffôn: 01656 302139

Heddlu Gwent – https://www.gwent.police.uk/cy-GB/

Ffurflen gŵyn ar-lein

Post: Gwent PSD, Pencadlys yr Heddlu. Heol Tyrpeg, Croesyceiliog, Cwmbran. NP44 2XJ

Ffôn: 101

Isod y mae’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu sy’n ymchwilio i’r digwyddiadau mwyaf difrifol a sensitif a honiadau’n ymwneud â’r heddlu.

Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) – https://www.policeconduct.gov.uk/cy/complaints/reviews-and-appeals

E-bost: enquiries@policeconduct.gov.uk

Ffôn: 0300 020 0096

Mae pob Panel Heddlu a Throseddu lleol yng Nghymru yn cael ei gynnal gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yn ardal yr heddlu. Felly, os hoffech wneud cwyn i’ch Panel lleol am eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu (neu’r Dirprwy), dyma fanylion cyswllt ar gyfer pob heddlu yng Nghymru:

Panel Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru (yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) – https://www.northwales-pcc.gov.uk/cy/Atebolrwydd/Police-and-Crime-Panel.aspx

E-bost: pcc.complaints@conwy.gov.uk

Post: Swyddog Arweiniol/Ymgynghorydd Cyfreithiol i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd cymru, Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy, Bodlondeb, Conwy. LL32 8DU

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed Powys  (yng Nghyngor Sir Caerfyrddin) – https://www.panelheddluathroseddudp.cymru/cartref/

E-bost: rjedgeco@carmarthenshire.gov.uk

Post: Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Gâr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA 31 1JP

Ffôn: 01267 224018

Panel Heddlu a Throseddu De Cymru (yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr) – https://www.merthyr.gov.uk/council/councillors-and-committees/south-wales-police-and-crime-panel/

E-bost: swpcp@merthyr.gov.uk

Post: Cyngor Bwrdeistref Sir Merthyr Tudful, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN

Panel Heddlu a Throseddu Gwent (yn Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) – https://www.gwentpcp.org.uk/cy/

E-bost: gwentcpc@caerphilly.gov.uk

Post: Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddem yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru.