Crynodeb

Cwynodd Mr B am y gofal â’r driniaeth a gafodd ei wraig, Mrs B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”).

Cwyn 1

Cwynodd Mr B fod y llawdriniaeth i dynnu pendics Mrs B wedi’i gohirio’n ormodol.  Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw oedi gormodol cyn trefnu ymchwiliadau neu driniaeth briodol ar ôl i lid y pendics gael ei amau yn Awst 2019, gan gynnwys y llawdriniaeth i dynnu pendics Mrs B.   Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.

Cwyn 2

Cwynodd Mr B fod methiant i ymchwilio i achos anawsterau anadlu Mrs B mewn modd amserol.   Canfu’r ymchwiliad y bu methiant i roi’r lefel ddisgwyliedig o ofal i Mrs B ar ôl y llawdriniaeth i dynnu ei phendics.   Bu methiant i adnabod achos isorweddol ei hanawsterau anadlu ac i ddarparu triniaeth briodol ac amserol.   Roedd methiant hefyd i adnabod arwyddion bod ei chyflwr yn gwaethygu ac i gymryd camau priodol.   Canfu’r Ombwdsmon, ar bwysau tebygolrwydd, ei bod yn debygol y byddai ataliad calon Mrs B a’i derbyniad hir yn yr Uned Therapi Dwys wedi’u hosgoi pe bai wedi cael gofal priodol.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y digwyddiadau hyn wedi effeithiol yn sylweddol ar lesiant corfforol a meddyliol Mrs B, a oedd yn anghyfiawnder difrifol iawn iddi.  Gadawyd Mrs B â phroblemau iechyd a symudedd na fyddai wedi disgwyl gorfod ymdopi â nhw yn ei 50au ac a allai gyfyngu’n sylweddol ar ansawdd ei bywyd am flynyddoedd i ddod.   Roedd Mr B hefyd wedi dioddef anghyfiawnder sylweddol oherwydd y gofid a brofodd yn ystod derbyniad ei wraig ac wedi hynny, wrth addasu i’r angen i ddarparu cefnogaeth gorfforol a seicolegol parhaus iddi.  Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Ymchwiliad estynedig

Yn ystod yr ymchwiliad, cododd pryder bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â threfnu gofal a thriniaeth ddilynol briodol i Mrs B mewn ymateb i sgan ym mis Medi 2017.  Defnyddiodd yr Ombwdsmon y pŵer “ar ei liwt ei hun” a gyflwynwyd yn ddiweddar i ymestyn yr ymchwiliad i ymchwilio’r pryder, yr oedd Mr a Mrs B yn gwbl anymwybodol ohono.  Canfu’r ymchwiliad, mewn ymateb i ganlyniad y sgan, y dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi trefnu i dynnu pendics Mrs B ond methodd â gwneud hynny.  O ganlyniad, collwyd cyfle i osgoi’r dirywiad yn iechyd Mrs B a ddigwyddodd ar ôl iddi ddatblygu llid y pendics yn 2019.   Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.

Nododd yr Ombwdsmon, pe na bai ei swyddfa wedi cychwyn ymchwiliad “ar ei liwt ei hun”, ni fyddai’r methiant sylweddol hwn a arweiniodd at anghyfiawnder difrifol i Mr a Mrs B wedi dod i’r amlwg.   Dangosodd hyn pam fod angen y pŵer “ar ei liwt ei hun”, er budd y cyhoedd, ac ar gyfer unigolion a ddaw at yr Ombwdsmon.

Argymhellion yr Ombwdsmon

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd, o fewn 1 mis:

  1. Ymddiheuro i Mr a Mrs B am y methiannau a’r anghyfiawnderau cysylltiedig a nodir yn yr adroddiad hwn.
  2. Talu £10,000 i Mr a Mrs B, i adlewyrchu’r anghyfiawnderau difrifol sy’n deillio o’r canfyddiad o golonograffeg CT a fethwyd yn 2017 a’r gofal gwael ar ôl llawdriniaeth yn 2019.
  3. Rhannu’r adroddiad gyda’r Ymgynghorwyr Cyntaf a’r Ail at ddibenion myfyrio a thrafod yn eu harfarniadau blynyddol nesaf.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd hefyd, o fewn 2 fis o’r adroddiad hwn:

  1. Darparu tystiolaeth bod yr adroddiad hwn wedi’i drafod mewn cyfarfod llywodraethu clinigol llawfeddygol a bod pwyntiau dysgu priodol wedi’u rhannu â thimau clinigol perthnasol.