Dyddiad yr Adroddiad

02/20/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206990

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr T nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi ymateb iddo i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Rhagfyr 2021.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gan y Bwrdd Iechyd o ran ymateb i’r gŵyn, a bod hyn wedi achosi anhwylustod a rhwystredigaeth i Mrs T. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr T a chynnig iawndal o £250 iddo i gydnabod yr oedi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.