Dyddiad yr Adroddiad

07/05/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202200979

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chymryd iechyd meddwl ei merch o ddifrif er gwaethaf yr atgyfeiriadau a wnaed gan ei meddyg teulu, y Gwasanaethau Cymdeithasol a’i nyrs ysgol.
Wrth ystyried y gŵyn hon, nododd yr Ombwdsmon i’r gŵyn gael ei chodi gyda’r Bwrdd Iechyd ym mis Chwefror 2022 ond nad oedd ymateb Gweithio i Wella (“GiW”) yn broblem ar adeg nodi’r gŵyn. Mae Gweithio i Wella yn datgan os na all y Bwrdd Iechyd gwblhau ei ymchwiliad o fewn 30 diwrnod, rhaid rhoi gwybod i’r achwynydd a rhoi esboniad pam. Mae’n mynd ymlaen i ddweud y dylid cyhoeddi’r ymateb o fewn 6 mis i’r dyddiad y derbyniwyd y gŵyn.

Felly, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms X am yr oedi cyn cwblhau ei ymchwiliad a chyflwyno ei ymateb i Gweithio i Wella iddi erbyn 17 Awst 2022 fan bellaf.