Dyddiad yr Adroddiad

05/04/2022

Achos yn Erbyn

Practis meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202200576

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd yr Athro X ei bod wedi methu â threfnu apwyntiad yn y Feddygfa i’w phartner, ac na chafodd ymateb i’w chwyn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi a gafodd yr Athro X, na chafodd ymateb i’w chwyn, a bod gweithredoedd y Feddygfa felly wedi peri anghyfleustra iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i:
• Ddarparu i’r Athro X ymddiheuriad am yr oedi cyn ymateb i’w chwyn
• Darparu i’r Athro X esboniad am yr oedi
• Darparu i’r Athro X ymateb i’r gŵyn erbyn 13 Mai 2022