Dyddiad yr Adroddiad

03/09/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Cartrefi gofal

Cyfeirnod Achos

202107140

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â gweithredu ar ei chais am asesiad Gofal Parhaus y GIG, a hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w chŵyn ffurfiol a wnaed ym mis Ebrill 2021.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Ms X wedi cael ymateb i’w phryderon eto, a chysylltodd â’r Cyngor. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i ddarparu ymateb ffurfiol cam 1 i Ms X i’w chŵyn erbyn 31 Mawrth 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Ms X.