Dyddiad yr Adroddiad

02/22/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202107020

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â gwneud a chwblhau’r gwaith trwsio y mae hi wedi rhoi gwybod amdano ers blynyddoedd lawer.

Cadarnhaodd y Cyngor mai’r rheswm dros yr oedi yn y lle cyntaf oedd problemau ag argaeledd contractwyr cyn pandemig COVID-19; yna, ar ben hynny, roedd y pandemig wedi cael effaith enfawr ar y Cyngor o ran cyflawni ei wasanaethau.

Mae’r Cyngor wedi cytuno â’r Ombwdsmon i ddarparu amserlen i Ms X o ddyddiadau dechrau a chwblhau ar gyfer pob darn o waith sy’n weddill, ac i gwblhau’r holl waith erbyn 10 Mai 2022.