Dyddiad yr Adroddiad

11/08/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202003631

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bro Morgannwg (“y Cyngor”) a Chyngor Tref y Barri (“y Cyngor Tref”), a Phwyllgor Cynllunio’r Cyngor, wedi torri’r Cod Ymddygiad i Aelodau drwy agor siop goffi a bar gwin heb sicrhau’r caniatâd cynllunio priodol i newid defnydd.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi bod yn gyd-gyfarwyddwr y siop goffi a’r bar gwin, a bod y busnes wedi agor cyn i benderfyniad gael ei wneud ar y cais cynllunio i newid defnydd gan yr Aelod (yn groes i reolaeth gynllunio). Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon hefyd fod yr aelod wedi ymddiswyddo ar unwaith fel cyfarwyddwr y cwmni pan dynnwyd ei sylw at yr achos posib o dorri’r Cod Ymddygiad ynghylch y sefyllfa, ac na chafodd unrhyw gysylltiad pellach â’r busnes. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod gan yr Aelod, fel aelod o Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor, ddigon o wybodaeth am faterion cynllunio perthnasol i ddeall pwysigrwydd glynu wrth reoliadau cynllunio, a dylai’r Aelod fod wedi ystyried ei sefyllfa, ac y dylai wedi gofyn am gyngor ynghylch ei rôl, cyn agor y busnes heb ganiatâd cynllunio cywir.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd y gellid yn rhesymol ystyried ymddygiad yr Aelod yn ymddygiad a allai ddwyn anfri ar swydd Aelod o’r Cyngor ac roedd yn awgrymu felly ei fod wedi torri paragraff (6(1)(a) y Cod Ymddygiad. Cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bro Morgannwg i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Bro Morgannwg fod yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad a chafodd ei atal dros dro am 1 mis.