Ar ei Liwt ei Hun - Ymchwiliadau Estynedig - Ar gyfer cyrff dan awdurdodaeth
Cyflwyniad
Gallwn ddefnyddio ein pwerau ar ein liwt ein hunain mewn dwy ffordd:
- I ymestyn ymchwiliad presennol i gŵyn a ddygwyd gan aelod o’r cyhoedd: neu
- I gynnal ymchwiliad annibynnol nad yw’n ymwneud ag unigolyn penodol neu gŵyn a gafwyd
Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut gallwn ddefnyddio ein pwerau ar ein liwt ein hunain i ymestyn ymchwiliad o dan Adran 4 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut y gallwn ddefnyddio ein pŵer ar ein liwt ein hunain i gynnal ymchwiliadau annibynnol unigol ar y dudalen ‘ Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain’ o dan y tab, ‘Amdanom ni’.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ymchwiliadau ar ein liwt ein hunain estynedig ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain’ o dan y tab, ‘Amdanom ni’.
Beth allwn ei wneud
Mae ein meini prawf (ar gael ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain’ , o dan y tab ‘Amdanom ni’) ar gyfer ymestyn ymchwiliad yn dweud, os ydyn ni wedi cychwyn ymchwiliad i gŵyn yn barod, ac ein bod yn dymuno cychwyn ymchwiliad ar ein liwt ein hunain i faterion sydd â chysylltiad sylweddol â’r mater sydd eisoes yn cael ei ymchwilio, byddwn yn dechrau ymchwiliad estynedig ar ein liwt ein hunain.
Gellir ymestyn ymchwiliad trwy ddefnyddio ein pwerau ar ein liwt ein hunain os oes gennym amheuaeth resymol bod cwyn am:
- Un elfen o wasanaeth, a/neu
- Un darparwr gwasanaeth
Gyda chysylltiad agos â:
- Achos posibl arall o gamweinyddu systemig neu o fethiant gwasanaeth, a/neu
- Darparwr gwasanaeth cysylltiedig arall
A:
- Achos sy’n golygu defnyddio crebwyll proffesiynol mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol – bod anghyfiawnder systemig wedi bodoli o ganlyniad i’r crebwyll proffesiynol hwnnw
- Rhaid bod dechrau ymchwiliad er budd y cyhoedd
Mae materion sy’n debygol o gael eu cynnwys o dan “gamweinyddu systemig/methiant gwasanaeth neu anghyfiawnder systemig” yn cynnwys y canlynol:
- methiant sydd ddim i’w weld wedi digwydd o ganlyniad i ddigwyddiad “untro” ond sydd wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ehangach yng ngweithdrefnau, prosesau neu systemau’r corff cyhoeddus
- methiant yn nulliau neu weithdrefnau’r corff cyhoeddus a allai achosi anghyfiawnder i nifer o bobl
- methiant ehangach o ran dull neu weithdrefn sydd i’w weld yn cael ei dderbyn neu ei gymeradwyo gan y corff cyhoeddus
Mae materion sy’n debygol o fod ‘er budd y cyhoedd’ yn cynnwys y canlynol:
- mater sydd o ddiddordeb sylweddol i’r cyhoedd a neu’n fater sydd eisoes o bryder i ni
- mater sy’n ymwneud â chamddefnydd grym gan gorff cyhoeddus yn erbyn unigolyn
- os ydy ‘ bregusrwydd’ neu amgylchiadau arbennig yr achwynydd neu’r grŵp o achwynwyr yn awgrymu y byddai ein hymyrraeth o fudd iddyn nhw
Efallai y byddwn eisiau ymestyn neu fynd ag ymchwiliad byw i gyfeiriad cysylltiedig arall gan archwilio cofnodion, cyngor proffesiynol a thystiolaeth arall sy’n nodi pryderon y tu hwnt i’r rheini yn y gŵyn a dderbyniwyd, sy’ n bodloni’r meini prawf.
Pan fyddwn o’r farn ei bod yn briodol ymestyn ymchwiliad trwy ddefnyddio ein pŵer ar ein liwt ein hunain, rhoddir gwybod i’r corff cyhoeddus dan sylw a’r achwynydd, a bydd cyfle i wneud sylwadau a/neu gyflwyno tystiolaeth fel rhan o’r broses ymchwilio.
Pan fyddwn wedi ymestyn ymchwiliad, bydd yn cael ei reoli yn unol â’n prosesau trin cwynion presennol.
Beth na allwn ei wneud
- Ymestyn cwyn nad yw’n destun ymchwiliad
- Ymestyn ymchwiliad i ystyried materion na fyddai’n cwrdd ag ein hawdurdodaeth o ran ymchwilio
- Estyn gwahoddiad sydd ddim yn diwallu ein meini prawf menter
Materion i'w cadw mewn cof
Os ydy’r ymchwiliad estynedig yn ymwneud â gwasanaethau iechyd a bod y rheoliadau ‘Gweithio i Wella’ yn berthnasol (neu o 1 Ebrill 2026, y rheoliadau ‘Gwrando ar Bobl’), rhoddir cyfle i’r achwynydd fwrw ymlaen â’r mater o dan y rheoliadau hyn fel dewis arall.
Cysylltu â ni
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch chi am ein gwasanaeth, cysylltwch â ni ar 0300 790 0203.