Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2026-29. Mae’r Cynllun yn nodi sut y byddwn yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant dros y tair blynedd nesaf, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni ein Cynllun Strategol 2026-29.
Wedi’i ddatblygu yn unol â’n dyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, mae’r Cynllun yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg, gydag urddas a pharch, a’u bod yn cael cyfleoedd cyfartal a theg i gymryd rhan a llwyddo.
Mae’r Cynllun yn nodi pum amcan cydraddoldeb:
- hyrwyddo ymwybyddiaeth o’n swyddfa a’n gwasanaethau ymhlith grwpiau targed
- sicrhau mynediad di-dor at ein gwasanaeth
- cyflawni canlyniadau gwell i grwpiau sydd mewn perygl o anfantais, allgáu neu anghydraddoldeb drwy ein gwaith gwella systemig
- parhau i wella amrywiaeth ein gweithlu
- hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithle.
Mae hefyd yn nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd rhwng 2026 a 2029 i sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn llywio’r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaeth, yn dylanwadu ar welliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cyflawni ein cyfrifoldebau fel cyflogwr.