Dyddiad yr Adroddiad

29/09/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Trafnidiaeth Ysgol

Cyfeirnod Achos

202604299

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C nad oedd Cyngor Abertawe wedi ystyried ei chais am gludiant ysgol yn briodol. Nododd nad oedd y llwybr cerdded oedd ar gael i ysgol ei phlentyn yn addas.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cynnal asesiad o’r llwybr, fel sy’n ofynnol o dan y Canllawiau ar Deithio Dysgwyr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, a chafodd ei gytundeb, i drefnu asesiad annibynnol o’r llwybr o fewn mis, ac i gynnig cyfle i Ms C gyd-fynd â’r asesydd ar y llwybr.