Dyddiad yr Adroddiad

29/09/2026

Achos yn Erbyn

Llywodraeth Cymru - Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202603939

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (“PCAC”) wedi ymateb i’w gwynion na’i ohebiaeth ynglŷn â’r ffordd yr oedd yn delio ag apeliadau cynllunio yn ei ardal leol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd PCAC wedi ymateb i gwynion Mr A rhwng mis Medi 2025 a mis Mai 2026. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr A. Penderfynodd ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb PCAC i ymddiheuro i Mr A o fewn 4 wythnos am beidio ag ymateb i’w gwynion, ac i ddarparu ymateb terfynol i’w gwynion.