Dyddiad yr Adroddiad

17/09/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Fynwy

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202603597

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ynglŷn â phenderfyniad Cyngor Sir Fynwy o ran asesiad ariannol ar gyfer gofal ei mam.

Canfu’r Ombwdsmon, er i’r Cyngor ymateb i gwyn Ms A yn ystod Cam 1, ei fod wedi methu ag ymateb i’w chwyn o dan Gam 2 o’r Weithdrefn Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi amddifadu Ms A o’r hawl i gael ei chwyn wedi’i hymchwilio’n annibynnol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gwyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud y canlynol o fewn pythefnos: cynnig ymddiheuriad i Ms A am beidio ag ymateb i’w chwyn drwy broses gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol; cydnabod ei chwyn yn unol â Cham 2 o Bolisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor; a darparu ymateb yn unol â’r polisi hwnnw.