Dyddiad yr Adroddiad

07/09/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Ceisiadau / dyraniadau / trosglwyddo / cyfnewidiadau

Cyfeirnod Achos

202603349

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Y fod Cyngor Sir y Fflint wedi rhoi gwybodaeth anghyson iddo ynghylch yr hyn a fyddai’n cael ei ystyried yn rhan o asesiad Therapydd Galwedigaethol o’i eiddo. Dywedodd Mr Y iddo gael gwybod yn flaenorol na fyddai’r asesiad yn ystyried mannau cymunedol yr adeilad. Roedd gwybodaeth ddiweddarach a ddarparwyd gan y Cyngor yn awgrymu y byddai asesiad arfaethedig yn ystyried yr eiddo yn ei gyfanrwydd.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr Y wedi codi pryderon gyda’r Cyngor ynghylch y wybodaeth groes, ond na wnaeth y Cyngor fynd i’r afael â’i bryderon. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr Y, a phenderfynodd ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud y canlynol o fewn mis:
a) Mynd i’r afael â phryder Mr Y.
b) Egluro a fyddai asesiad arfaethedig yn ystyried mannau cymunedol yr adeilad fel rhan o asesiad o addasrwydd yr eiddo ar gyfer Mr Y.