Cwynodd Miss A oherwydd ei bod yn anfodlon ar gamau Cyngor Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â materion yr oedd yn eu profi gyda’i chymdogion, gan gynnwys niwsans sŵn, bridio colomennod, coed anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod camau’r Cyngor mewn ymateb i bryderon Miss A yn rhesymol ar y cyfan, ac na ellid cyflawni dim pellach o ran y materion yn ymwneud â niwsans sŵn a choed anghyfreithlon. Fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi cyngor priodol i Miss A ynghylch sut yr oedd yn bwriadu mynd i’r afael â’i phryderon o ran bridio colomennod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, a chafodd ei gytundeb, i ddarparu diweddariad i Miss A o fewn 3 wythnos ar y camau y mae’n eu cymryd mewn perthynas â bridio colomennod, yn ogystal â’r camau sy’n cael eu cymryd gan y tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol.