Cwynodd Miss B am y ffordd yr ymdriniodd y Corff â’i phryderon.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Corff wedi ystyried pryderon Miss B o dan ei brosesau Adnoddau Dynol, yn hytrach na’i broses gwynion. Fodd bynnag, ni eglurwyd hyn yn glir i Miss B ar y dechrau, ac o ganlyniad roedd hi’n disgwyl ymateb ffurfiol i gwyn. Er nad oedd yr Ombwdsmon yn disgwyl i’r Corff rannu unrhyw wybodaeth gyfrinachol yn ymwneud ag ymchwiliad Adnoddau Dynol, roedd hi o’r farn ei bod yn rhesymol i’r Corff ganfod a oedd gan Miss B unrhyw bryderon heb eu datrys y gellid eu hystyried o dan ei broses gwynion – yn enwedig pryderon ynghylch cyfathrebu yn ystod yr ymchwiliad. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Corff i wneud y canlynol o fewn pythefnos: ymddiheuro i Miss B am y diffyg eglurder ynghylch y broses ymchwilio; nodi ei phryderon heb eu datrys; cytuno i ystyried unrhyw bryderon sy’n dod o dan ei broses gwynion; ac, os bydd pryderon yn syrthio y tu allan i gwmpas y broses honno, darparu esboniad clir pam na ellir eu hystyried.