Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i’w mam yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty ym mis Awst 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gwyn Ms A ac wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’i phryderon. Fodd bynnag, ni welodd yr Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth bod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd camau i wella cyfathrebu ag aelodau o’r teulu, yn unol â chytundeb a wnaed yn y cyfarfod cwynion a gynhaliwyd gyda Ms A. Cydnabu’r Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms A.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, a chafodd gytundeb ganddynt, i drafod achos mam Ms A yn y cyfarfod Ansawdd a Diogelwch nesaf ym mis Medi, ac i drafod cynnig ar gyfer gwella cyfathrebu â theuluoedd yn y cyfarfod hwnnw.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn pedair wythnos i’r cyfarfod hwn, i ddarparu copi o gofnodion y cyfarfod i Ms A, i ymddiheuro iddi am y ffaith na ddigwyddodd y drafodaeth hon yn gynt, ac i ddarparu tystiolaeth i’r Ombwdsmon bod y camau hyn wedi’u cwblhau.