Cwynodd Mr A ynghylch y ffordd ymdriniodd y Cyngor â chais cynllunio.
Nododd yr Ombwdsmon bryderon Mr A ynghylch dileu gofyniad arfaethedig o’r hysbysiad penderfyniad terfynol, a bod ymateb y Cyngor i’r gwyn wedi methu ag egluro’n llawn y rhesymau dros ei hepgor.
Er nad oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod angen ymchwiliad pellach, roedd hi o’r farn y dylai’r Cyngor ddarparu ymateb mwy manwl ar y mater. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, a chafodd ei gytundeb, i ddarparu eglurhad mwy manwl i Mr A – o fewn 3 wythnos – ynglŷn â pham y cafodd yr amod ei hepgor o’r hysbysiad penderfyniad terfynol.