Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd i’w thad, sydd bellach wedi marw.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn ymdrin â phryderon Mrs A ynghylch a oedd y cystosgopi a gafodd ei thad yn briodol, na chwaith â’r modd y cyfathrebodd y Bwrdd Iechyd â’r teulu.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach i Mrs A o fewn mis.