Cwynodd Ms A am safon y gofal a dderbyniodd ei chwaer wrth iddi gael triniaeth ar gyfer canser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cododd Ms A bryderon hefyd ynghylch y ffordd ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â’i chwyn.
Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â phob agwedd ar gwyn Ms A, gan gynnwys pryderon Ms A ynghylch oedi wrth hysbysu ei chwaer am ganlyniadau sgan. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi anghyfleustra a rhwystredigaeth i Ms A.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, a chafodd gytundeb ganddo, i gynnig ymddiheuriad i Ms A – o fewn 6 wythnos – am y ffaith na chafodd pob un o’i phryderon sylw yn ymateb y Bwrdd Iechyd, ac i ddarparu ymateb pellach i Ms A ynglŷn â’r pryderon oedd heb eu datrys.