Cwynodd Mr A ei fod yn anfodlon ar y ffordd yr ymdriniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili â’i gwyn, a’i fod wedi methu ag ymdrin â’i bryderon yn llawn. Cyflwynodd Mr A ei gwyn i’r Cyngor am y tro cyntaf 12 mis yn ôl, a dyma’r ail dro iddo droi at yr Ombwdsmon am gymorth i ddatrys ei bryderon.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod camweinyddu wedi digwydd yn y ffordd yr ymdriniodd y Cyngor â chwyn Mr A; roedd peth o’r wybodaeth a ddarparwyd i Mr A yn anghywir, ac roedd y Cyngor wedi methu ag ymateb yn unol â Cham 2 o’r Weithdrefn Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mr A.
Penderfynodd ddatrys y gwyn heb gynnal ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i wneud y canlynol o fewn wythnos: cynnig ymddiheuriad i Mr A ynghyd â £250 fel iawndal am yr amser a’r trafferthion a achoswyd wrth ymdrin â’i gwyn; cydnabod ei gwyn yn unol â Cham 2 o Bolisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor; a chytuno i ddarparu ymateb yn unol â’r polisi hwnnw. Cytunodd y Cyngor hefyd i adolygu geiriad y llythyrau templed a ddefnyddir ar gyfer cwynion, o ran yr amserlenni sy’n berthnasol i’r rhai sy’n cyflwyno cwynion.