Dyddiad yr Adroddiad

08/09/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202510251

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs B ynghylch a gafodd sblint Kendrick, a osodwyd ar 6 Awst 2025, ei osod a’i reoli yn unol â’r canllawiau perthnasol.

Canfu’r Ombwdsmon fod gosod y sblint Kendrick yn briodol, ond nad oedd y modd y cafodd ei reoli wedyn gan y ddau Fwrdd Iechyd yn briodol. Methodd y ddau Fwrdd Iechyd â chynnal gwiriadau priodol ynghylch effaith y sblint Kendrick. O ganlyniad, collwyd cyfleoedd i nodi datblygiad briwiau pwysau yn gynharach. Hefyd, methodd y ddau Fwrdd Iechyd ag ymateb yn briodol i gwyn Mrs B. Cadarnhawyd cwyn Mrs B.

Cytunodd y ddau Fwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs B am y methiannau hyn, cynnig taliad iawndal o £375 yr un iddi, a sicrhau bod staff sy’n delio â chwynion yn gyfarwydd â’r canllawiau perthnasol sy’n ymwneud â chwynion yn erbyn mwy nag un corff.

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hefyd i atgoffa’r staff perthnasol o bwysigrwydd archwilio croen cleifion sydd â sblint Kendrick yn rheolaidd.

Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd i ddarparu tystiolaeth o’r camau y dywedodd ei fod wedi’u cymryd ers y digwyddiad hwn i atal iddo ddigwydd eto.