Cwynodd Mrs B ynghylch y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar fam, Mrs A, gan y Bwrdd Iechyd. Yn benodol, holodd a ddylai Mrs A fod wedi cael ei chyfeirio at y tîm Cardioleg yn dilyn sgan CT ym mis Tachwedd 2023 a ddangosodd glefyd coronaidd y galon, ac a oedd yn ddiogel ac yn briodol rhyddhau Mrs A ar 2 Hydref 2024 tra oedd hi’n dioddef o fethiant y galon.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd unrhyw arwydd clinigol dros gyfeirio Mrs A at y tîm Cardioleg yn dilyn y gofal a gafodd ym mis Tachwedd 2023; felly, ni chadarnhawyd y gŵyn hon. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod y penderfyniad i ryddhau Mrs A ar 2 Hydref 2024 yn briodol, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cael ei wahodd i ystyried awgrymiadau yn ymwneud â’r cyfathrebu gwael – y mae’r Bwrdd wedi cydnabod ei fod wedi digwydd – â Mrs A a’i theulu ar y pryd. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon chwaith.