Edrychodd ymchwiliad yr Ombwdsmon ar bryderon Mr A ynghylch a oedd Ysbyty Cyffredinol Glangwili (“yr Ysbyty”) wedi methu ag adrodd yn gywir ar asgwrn wedi torri yn ei badell pen-glin – a welwyd ar belydr-X ym mis Mai 2024 – ac a oedd hyn wedi cyfrannu at y ffaith iddo, yn ddiweddarach ym mis Medi 2024, ddioddef rhwyg yn ei dendon Achilles. Roedd Mr A wedi mynd i Adran Achosion Brys yr Ysbyty ym mis Medi yn dilyn damwain beic.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Mr A. Nododd yr Ombwdsmon fod diffygion yn yr adroddiad ar y pelydr-X o fis Mai 2024 o ran y cyfeiriad at estyniad esgyrnog ym mhadell pen-glin Mr A (mae estyniadau esgyrnog’ – neu bony spurs – yn dyfiadau annormal o esgyrn sy’n datblygu mewn mannau penodol ar dendonau a ligamentau yn y pen-glin oherwydd straen, anaf neu lid).
Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon na fyddai triniaeth Mr A wedi newid. Yn fyr, triniaeth geidwadol a fyddai wedi cael ei rhoi iddo beth bynnag. Felly, ni phrofodd Mr A anghyfiawnder. Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn fodlon nad oedd y toriad i’r estyniad esgyrnog ym mhadell pen-glin Mr A wedi cael unrhyw effaith ar y rhwyg a ddigwyddodd yn ddiweddarach yn ei dendon Achilles yn ei ffêr.