Cwynodd Miss A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ystyriodd yr ymchwiliad a gynhaliwyd yr asesiadau a gafodd Miss A ym mis Awst 2022, wrth baratoi ar gyfer gweithdrefn atgaffael wyau ym mis Medi, yn unol â safon briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod yr asesiadau a gafodd Miss A, a oedd yn sail i’r penderfyniad clinigol i fwrw ymlaen â’r weithdrefn atgaffael wyau ym mis Medi, yn briodol. Fodd bynnag, methodd y Bwrdd Iechyd â sicrhau bod gwybodaeth lawn wedi’i rhoi i Miss A, gan gynnwys gwybodaeth am risgiau ac opsiynau yn ymwneud â gwrthfiotigau. Canfu’r ymchwiliad, er efallai y byddai’r canlyniad wedi bod yr un fath, na chafodd Miss A gyfle priodol i ystyried y risgiau llawn o fwrw ymlaen. O ganlyniad, mae’n rhaid iddi fyw gyda’r ansicrwydd y gallai fod wedi gwneud dewis gwahanol. Dyna’r anghyfiawnder a gafodd ei wneud iddi. Ar y sail honno, cadarnhawyd cwyn Miss A.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Miss A am y methiannau a’r diffygion a nodwyd gan yr ymchwiliad, o fewn 6 wythnos. Cytunodd hefyd i gynnal archwiliad o gofnodion ac adolygu sampl o achosion eraill o fewn y gwasanaeth perthnasol, er mwyn sicrhau bod caniatâd wedi’i gael yn briodol; i rannu copi o’r canfyddiadau gyda’r Ombwdsmon; ac i gymryd camau priodol yn sgil yr archwiliad hwn o fewn 6 mis. Ymhellach, cytunodd i rannu’r adroddiad â chlinigwyr sy’n ymwneud â thrafodaethau caniatâd gyda chleifion, er mwyn i’r canfyddiadau gael eu hystyried a’u trafod, o fewn 6 mis.