Dyddiad yr Adroddiad

04/08/2026

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202602426

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss B fod Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth i’r Ymddiriedolaeth yn Rhagfyr 2025.

Casglodd yr Ombwdsmon fod WAST wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a heb ddiweddaru Miss B yn rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd WAST i ymddiheuro wrth Miss B am fethu ag ymateb i’w chŵyn, i ymddiheuro hefyd am fethu ei diweddaru’n rheolaidd ac ystyrlon, i gynnig talu £75 i Miss B i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon, ac i ymateb i’w chŵyn o fewn 4 wythnos.