Cwynodd Mr A fod Cymdeithas Dai Hafod wedi methu â rhoi sylw priodol i’w bryderon wrth ymateb i’w gŵyn.
Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas Dai wedi ymateb yn glir i holl bryderon Mr A gan achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad ffurfiol.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Gymdeithas Dai i roi ymateb ffurfiol a chynhwysfawr i gŵyn Mr A yn rhoi sylw i’w bryderon, o fewn 4 wythnos.