Dyddiad yr Adroddiad

03/08/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion

Cyfeirnod Achos

202602074

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms P fod Cyngor Abertawe wedi methu ag ymateb i’w chŵyn Gwasanaethau Cymdeithasol Cam 2.

Casglodd yr Ombwdsmon er bod y Cyngor wedi ymateb i’w chŵyn Cam 1, bod oedi wedi bod gydag ymateb i’w chŵyn Cam 2. Roedd y Cyngor hefyd wedi rhoi ymateb Cam 1 anghywir o dan ei Weithdrefn Cwynion Corfforaethol, ac nid o dan ei Weithdrefn Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor i ymddiheuro wrth Ms P am fethu ag ystyried ei chŵyn o dan y weithdrefn Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol, i ymddiheuro ymhellach am yr oedi gyda symud ymlaen gyda’i chŵyn, i gysylltu â Ms P i gytuno ar ba bwyntiau yn ei chŵyn fyddai’n cael eu hystyried fel rhan o’r ymchwiliad Cam 2, ac i benodi swyddog Annibynnol i gwblhau’r ymchwiliad Cam 2 o fewn 6 wythnos.