Cwynodd Mrs B nad oedd ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i’w chŵyn yn gwneud sylw ar y driniaeth a dderbyniodd ei gŵr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg cyn ei drosglwyddo i’w Bwrdd Iechyd nhw yn Rhagfyr 2023.
Casglodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi cysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg er mwyn ymateb ar y cyd. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs B yn ymddiheuro am fethu ag ymateb ar y cyd, ac i roi ymateb pellach i’w chŵyn, yn cynnwys gwybodaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg o fewn 6 wythnos.