Dyddiad yr Adroddiad

04/08/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202601966

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’w chŵyn am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad, ar ôl iddi gwyno ym mis Hydref 2025.

Casglodd yr Ombwdsmon, er nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn, ei fod wedi cael cyfarfodydd gyda Ms B ac wedi ei diweddaru ar gynnydd yr ymchwiliad. Hefyd, ers y gŵyn gychwynnol i’r Bwrdd Iechyd, roedd Ms B wedi ychwanegu elfennau newydd i’r gŵyn oedd wedi cyfrannu at yr oedi. Fodd bynnag, roedd yn glir bod y broses wedi bod yn un hirfaith a fyddai wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb i gŵyn Ms B ar sail yr elfennau o’r gŵyn a dderbyniodd hyd yma a chynnig talu £150 i Ms B i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon, o fewn 8 wythnos.