Cwynodd Mr A fod Cyngor Abertawe wedi methu â chymryd camau gorfodaeth ynglŷn â gwaith oedd yn cael ei wneud wrth ymyl ei eiddo. Roedd Mr A yn anhapus nad oedd yn parhau i gael ei ddiweddaru er bod y Cyngor wedi dweud wrtho bod y mater yn mynd yn ei flaen gyda datblygwyr y gwaith.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor mewn cysylltiad â’r datblygwyr i gytuno ar gynigion ar gyfer cwblhau’r gwaith gwella yn erbyn y gwaith gwreiddiol a gwblhawyd. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y gwaith wedi cael ei gwblhau’n wreiddiol yn 2020 a bod y mater felly wedi bod yn mynd yn ei flaen ers tro byd. Ni all yr Ombwdsmon orfodi’r Cyngor i gymryd camau gorfodaeth yn erbyn y datblygwyr, ond penderfynodd y dylai Mr A gael ei ddiweddaru ar gynnydd y gwaith, i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau mewn ffordd amserol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor y byddai, o fewn pythefnos, yn rhoi diweddariad manwl i Mr A ac yn ei hysbysu pryd y gallai ddisgwyl cael ei ddiweddaru nesaf.