Cwynodd Mr A fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â rhoi sylw i’w bryderon wrth ymateb i’w gŵyn.
Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb yn rhoi sylw i geisiadau penodol Mr A ynghylch y gofal yr oedd yn ei dderbyn ac addasiadau rhesymol.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb diwygiedig i gŵyn Mr A o fewn un mis, yn rhoi sylw llawn i’r pwyntiau penodol a godwyd yn y lle cyntaf.