Dyddiad yr Adroddiad

17/08/2026

Achos yn Erbyn

Grŵp Codi

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202601418

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y ffordd oedd Grŵp Codi wedi trin ei gŵyn yn ymwneud â’i dad, Mr B, a’i fod wedi bod heb wres am gyfnod ym mis Tachwedd 2025.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Gymdeithas Dai wedi ymateb i’r gŵyn, fod yr hyn a ddigwyddodd a beth ddylai fod wedi digwydd yn aneglur o hyd, a hefyd yn aneglur a ddangosodd y Gymdeithas Dai dystiolaeth eu bod wedi dysgu’n iawn o’r mater. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd yr Ombwdsmon, a chytunodd y Gymdeithas Dai y byddai, o fewn un mis calendr, yn rhoi ymateb pellach yn rhoi sylw i’r materion oedd heb gael eu datrys.