Cwynodd Mr A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn derfynol i’w gŵyn na wedi’i ddiweddaru’n rheolaidd ar ôl iddo godi pryder gyda nhw.
Casglodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd gydag ymateb yn derfynol i gŵyn Mr A.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 3 wythnos, yn ymateb yn derfynol i gŵyn Mr A ac yn ymddiheuro am yr oedi a brofodd.