Dyddiad yr Adroddiad

27/08/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202509427

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr, Mr B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”). Yn benodol, ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y rheolaeth glinigol o’r symptomau a gyflwynwyd gan Mr B rhwng 25 a 27 Mawrth 2025 yn briodol, amserol ac yn unol â’r canllawiau perthnasol.

Yn benodol, a ddylai archwiliad Colangiopancreatograffi Gwrthredol Endosgopig (“ERCP” – archwiliad o ddwythellau’r pancreas a’r bustl yn defnyddio tiwb tenau gyda golau a chamera ar y pen) fod wedi cael ei wneud.

Casglodd yr ymchwiliad bod rhyddhau Mr B heb wneud ERCP yn briodol. Roedd yn rhesymol i’r clinigwyr ystyried sut y gellid lliniaru unrhyw risg bosib i Mr B oddi wrth y driniaeth yma.

Oherwydd ei gyflwyniad ar 27 Mawrth, nid oedd angen iddo aros yn yr ysbyty pan oedd y pethau hyn yn cael eu hystyried. Ni dderbyniwyd cwyn Mrs B felly.