Dyddiad yr Adroddiad

21/08/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd Meddwl Oedolion

Cyfeirnod Achos

202507562

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd pan oedd yn glaf mewnol gwirfoddol mewn uned gwasanaethau iechyd meddwl o dan y Bwrdd Iechyd. Ystyriodd yr ymchwiliad a gafodd ofal a thriniaeth briodol ei ddarparu dan ofal y Seiciatrydd Ymgynghorol Cyntaf, rhwng Mai ac Awst 2025, yn enwedig o ran ystyried meddyginiaethau priodol ac asesiad o alluedd Miss A.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y gofal a rheolaeth gyffredinol o Miss A gan y Seiciatrydd Ymgynghorol Cyntaf yn briodol ar y cyfan, gan gynnwys rhagnodi meddyginiaeth. Fodd bynnag, casglodd yr ymchwiliad y dylai asesiad galluedd pellach fod wedi cael ei wneud pan benderfynodd Miss A ryddhau ei hun o ysbyty i ddychwelyd i’r uned heb i’w chlwyfau gael eu trin yn briodol, yn groes i gyngor y llawfeddyg, ar 10 Gorffennaf. Nid yw’n bosib gwybod i sicrhau a fyddai asesiad galluedd pellach fod wedi wedi arwain at ystyried nad oedd gan Miss A i wneud penderfyniadau am y gofal a’r driniaeth o’i chlwyfau, ac a fyddai wedyn fod wedi gallu derbyn triniaeth yn gynt, yn groes i’w dymuniad. Fodd bynnag, mae’r ansicrwydd hwn yn anghyfiawnder i Miss A ac i’r graddau hynny derbyniwyd y gŵyn.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro’n ysgrifenedig wrth Miss A am y methiannau a ganfuwyd; i rannu adroddiad yr Ombwdsmon gyda’r Seiciatrydd Ymgynghorol Cyntaf er mwyn myfyrio a dysgu yn eu harfarniad blynyddol nesaf; ac i rannu’r adroddiad gyda staff y tîm aml-ddisgyblaeth oedd yn rhan o ddarparu gofal i Miss A yn ystod y cyfnod oedd yn destun yr ymchwiliad, er mwyn myfyrio ar y canfyddiadau.