Dyddiad yr Adroddiad

03/08/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505471

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar fam, Mrs A, gan y Bwrdd Iechyd ar ôl ei derbyn i Ysbyty Prifysgol Cymru yn Hydref 2024. Ystyriodd yr ymchwiliad a dderbyniodd ofal a thriniaeth briodol yn ystod ei harhosiad, yn enwedig rheolaeth yr ysbyty o gyflwr methiant y galon Mrs A, a’i lefelau ocsigen. Ystyriodd hefyd a oedd rhyddhau Mrs A ar ôl hynny’n briodol.

At ei gilydd, casglodd yr Ombwdsmon fod gofal a thriniaeth briodol wedi eu darparu yn ystod arhosiad Mrs A. Roedd ei lefelau ocsigen wedi cael eu rheoli’n briodol ac nid oedd tystiolaeth amlwg bod ei chyflwr o fethiant y galon wedi dirywio. Nid oedd dim byd ychwaith i awgrymu bod Mrs A ar fin dirywio’n sylweddol ar ôl cael ei rhyddhau. Roedd ei rhyddhau felly’n briodol. Ni dderbyniodd yr Ombwdsmon yr un o’r cwynion.