Cwynodd Miss A am reolaeth a gofal Ysbyty Glan Clwyd (“yr Ysbyty”) o’i mam, Mrs B, ac a ddylai ei mam, ym mis Mai 2025, fod wedi cael sgan ychwanegol ar ei hasgwrn cefn cyn ei rhyddhau. Yn dilyn sgan MRI diweddarach mewn ysbyty arall, cafwyd bod mam Miss A wedi torri ei hasgwrn cefn, ac mae bellach wedi’i pharlysu o’i chanol i lawr.
Ni dderbyniodd yr Ombwdsman gŵyn Miss A. Casglodd ymchwiliad yr Ombwdsmon, o ystyried cyflwyniad clinigol Mrs B ar y pryd, nad oedd rheswm clinigol a fyddai wedi cyfiawnhau gwneud sgan MRI llawn ar ei hasgwrn cefn pan oedd yn yr Ysbyty. Nid oedd cyfiawnhad felly dros wneud MRI llawn arall ar ei hasgwrn cefn. Dim ond ar 9 Gorffennaf, ar ôl i gyflwyniad clinigol Mrs B newid, y daeth yr arwyddion clinigol i gyfiawnhau MRI asgwrn cefn llawn i’r amlwg.