Cwynodd Miss A am y gofal a dderbyniodd gan Adran Llawdriniaeth Gên ac Wyneb a’r Geg (“yr Adran Gên ac Wyneb) y Bwrdd Iechyd. Ymchwiliom yn benodol i weld a oedd penderfyniad y Llawfeddyg Gên ac Wyneb Ymgynghorol (“yr Ymgynghorydd”) oedd yn gyfrifol am ryddhau gofal Miss A o’r Adran Gên ac Wyneb ar 28 Tachwedd 2023, ac am y cynllun rhyddhau a luniwyd wedyn, yn glinigol briodol. Penderfynwyd bod penderfyniad yr Ymgynghorydd i ryddhau Miss A yn rhesymol a’i fod yn briodol peidio â chynnig pigiadau pellach o botulinum toxin (a elwir yn gyffredin yn botox: protein niwrotocsin a ddefnyddir, yng nghyd-destun anhwylderau’r ên, i ymlacio cyhyrau gên gorsymudol dros dro). Ni dderbyniwyd y gŵyn.
Ymchwiliom hefyd i weld a oedd y rhesymau a roddwyd am benderfynu peidio â derbyn cais am ail farn (barn am gyflwr iechyd person gan feddyg gwahanol), ddau fis ar ôl rhyddhau, yn glinigol briodol. Penderfynwyd bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r cais am ail farn yn briodol, ar ôl ystyried bod y cais yn amwys a bod rhesymau clinigol priodol wedi eu rhoi i egluro’r penderfyniad i beidio â darparu gofal pellach o dan yr Adran Gên ac Wyneb. Ni dderbyniwyd y gŵyn hon ychwaith.