Rydym wedi adrodd am y flwyddyn brysuraf yn hanes 20 mlynedd y swyddfa, gyda chynnydd record mewn cwynion am wasanaethau cyhoeddus ac ymddygiad cynghorwyr ledled Cymru.

Yn ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2025-26, rydym yn dweud bod y swyddfa wedi derbyn 4,507 o gwynion a wnaed yn briodol ar draws ei gwaith gwasanaethau cyhoeddus a Chod Ymddygiad – 27% yn fwy na’r llynedd , 47% yn fwy na thair blynedd yn ôl, a thair gwaith cymaint ag 20 mlynedd yn ôl.

Roedd y cynnydd yn arbennig o sydyn mewn perthynas â chwynion am y gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd. Am y tro cyntaf, derbyniom fwy na 4,000 o gwynion am wasanaethau cyhoeddus mewn un flwyddyn, gan gyrraedd 4,183cynnydd o 29% ar 2024-25 a 50% yn uwch nag yr oedd tair blynedd yn ôl.

Daeth y cynnydd mwyaf o’r sectorau sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o’n gwaith achos. Cododd cwynion am fyrddau iechyd Cymru 42% i 1,351. Cododd cwynion am Awdurdodau Lleol 27% i 1,704. Cododd cwynion newydd am gymdeithasau tai 25% i 513.

Er gwaethaf y galw digynsail hwn, caeodd ein swyddfa nifer record o gwynion hefyd – 29% yn fwy na’r llynedd a 43% yn fwy o’i gymharu â thair blynedd yn ôl.

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Dyma’r arwydd cliriaf eto bod pobl ledled Cymru yn parhau i deimlo pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Rydym bellach yn derbyn tair gwaith cymaint o gwynion a dderbyniodd y swyddfa 20 mlynedd yn ôl, a chynnydd eleni yw'r un mwyaf sydyn yr ydym wedi’i weld. Y tu ôl i bob rhif mae rhywun sydd wedi teimlo wedi’i siomi ac sy’n chwilio am atebion, tegwch a gwelliant."

Parhaodd ein swyddfa hefyd i ddatblygu ein gwaith gwella ledled Cymru. Erbyn diwedd mis Mawrth 2026, roedd pob awdurdod lleol, bwrdd iechyd a 21 o gymdeithasau tai yn gweithredu o dan ein polisi cwynion enghreifftiol, gyda disgwyl i’r ychydig o gymdeithasau tai sy’n weddill gydymffurfio erbyn mis Medi 2026. Hyd yn hyn, mae’r swyddfa wedi cau 20 o ymchwiliadau ar ei liwt ei hun – lle gallwn ymchwilio i fater heb fod wedi cael cwyn. Hyrwyddodd y swyddfa hefyd yn eang 9 adroddiad budd y cyhoedd a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn, a oedd yn tynnu sylw at fethiannau difrifol mewn gwasanaethau gofal iechyd a thai cymdeithasol.

Yn ogystal, er gwaethaf y cynnydd mewn gwaith achos, rydym wedi parhau i hyrwyddo’r gwasanaeth i’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod ei angen ac i wella hygyrchedd. Mae’r Adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod ymwybyddiaeth o’r swyddfa bellach ar ei lefel uchaf, gyda 52% o’r cyhoedd yng Nghymru yn ymwybodol ohonom. Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd y swyddfa 236 o gwynion dros y ffôn, gwasanaeth allweddol a gynlluniwyd i gael gwared ar rwystrau i bobl sy’n llai cyfforddus i gwyno’n ysgrifenedig.

Ychwanegodd Michelle Morris:

“Wrth i ni edrych ymlaen, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod ein canfyddiadau ar waith achos yn parhau i arwain at atebolrwydd cryfach, dulliau gwell o drin cwynion ar lefel lleol a gwelliant gwirioneddol i bobl Cymru. Mae nifer y cwynion yn her, ond mae hefyd yn gyfle: gall pob cwyn a gadarnheir, pob datrysiad cynnar a phob argymhelliad helpu i atal yr un anghyfiawnder rhag digwydd eto.”