Dyddiad yr Adroddiad

23/07/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202602556

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am hyd yr aros i gael ei weld pan aeth i’r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morganwg.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi delio â’r gŵyn fel datrysiad cynnar, fod Mr A wedi disgwyl ymateb ysgrifenedig ffurfiol i’r gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n anfon ymateb ysgrifenedig ffurfiol ato o fewn 6 wythnos, yn mynd i’r afael â’i bryderon.